Lleoliad:
Lleoliad Allanol
Dyddiad: Dydd Llun, 3 Gorffennaf 2017
Amser: 14.20 -
16.41
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4114
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Vikki Howells AC Neil McEvoy AC Rhianon Passmore AC Lee Waters AC |
Tystion: |
Iestyn Davies, Colleges Wales Geoff Hicks, Llywodraeth Cymru Mark Jones, Cadeirydd, ColegauCymru Sharron Lusher, Coleg Sir Benfro Huw Morris, Llywodraeth Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Huw Vaughan Thomas - Archwilydd Cyffredinol Cymru Matthew Mortlock Ben Robertson |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd Aelodau'r Pwyllgor i'r cyfarfod, a gynhaliwyd yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i staff y coleg am eu cymorth wrth hwyluso'r cyfarfod.
1.2 Croesawodd y Cadeirydd Vikki Howells AC i'r Pwyllgor.
1.3 Ni chafwyd ymddiheuriadau.
1.4 Datganodd Neil McEvoy AC fuddiant gan ei fod wedi cael ei gyflogi yn y sector addysg bellach.
2.1 Nodwyd y papurau.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Iestyn Davies, Prif Swyddog Gweithredol ColegauCymru, Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr a Sharron Lusher, Cadeirydd ColegauCymru, fel rhan o'r ymchwiliad i drosolwg Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach.
3.2 Cytunodd Iestyn Davies i anfon y wybodaeth a ganlyn at y Pwyllgor:
· Cyfran y cyllid sy'n cael ei wario ar y Gymraeg a'r Saesneg yn y sector addysg bellach;
· Canran y cyllid addysg bellach sy'n cael ei wario ar farchnata.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Huw Morris, Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes Llywodraeth Cymru a Geoff Hicks, Pennaeth Cyllid Ôl-16 Llywodraeth Cymru, fel rhan o'r ymchwiliad i drosolwg Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach.
4.2 Cytunodd Huw Morris i anfon y wybodaeth a ganlyn at y Pwyllgor:
· Cyfran y gyllideb sy'n cael ei wario ar y Gymraeg a'r Saesneg yn y sector addysg bellach;
· Esboniad manwl o'r effaith ar gyllid Ysgolion yr 21ain ganrif o fis Mawrth 2019 ymlaen yn sgil y broses o adael yr UE;
· Manylion am sut y mae dysgwyr o'r gymuned Teithwyr yn cael eu cefnogi yn y sector addysg bellach;
· Anfon y dyraniad o ran cyllid cyfalaf o'r gyllideb ddrafft, os yw'n gallu.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i amlinellu ei sylwadau. Anfonir copi o'r llythyr ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a Phwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.